Home

Ymarferiadau

 

Mae’r Cantorion yn ystyried eu hunain yn fwy na charfan o ddynion sydd am ganu hefo’i gilydd. Maent yn feicrocoswm o Ogledd Cymru  i gyd  ac o’i gymunedau yn anad dim. Oherwydd hynny y mae i’r côr awyrgylch  gwir deuluol a bywyd cymdeithasol bywiog ac fe roir croeso twymgalon i’r ymwelwyr  achlysurol a ddaw i’r ymarferiadau bob yn ail Sul (2 i 5 y prynhawn) yn Stafell Eglwys y Santes Fair, Betws y Coed, Eryri.

Fe erfynnir am eich cwmni a’ch diddordeb chwithau hefyd. Cadwch mewn cysylltiad â ni trwy gyfrwng y rhyngrwyd, ein Nodlyfr Gwesteion,  trwy e-bost , Facebook a YouTube neu trwy’r dudalen Cyswllt. Edrychwn ymlaen at eich gweld.

‘Difyrru, cyffroi a chyfareddu’, dyna arwyddair addas i’r Cantorion.  Mae’r côr unigryw yma yn ymgorfforiad o’r hyn sydd orau yn y traddodiad corau meibion yng Nghymru. Mae sŵn syfrdanol a digyfaddawd y côr wedi swyno cynulleidfaoedd ers  y cychwyn yn 1992. Fe deithia’r trigain aelod o bob rhan o Ogledd Cymru i ymarfer bob yn ail Sul yn harddwch Betws y Coed yng nghesail Eryri.  Rhydd safle  godidog y pentref osodiad perffaith i gôr sydd yn adnabyddus am  lawnder ei sŵn  cyffrous a’i berfformiadau deinamig.

Ymgasgla gweithwyr o Ynys Môn, gwŷr Harlech, cyn lowyr o Rosllannerchrugog, ffermwyr o Ddyffryn Conwy, a masnachwyr o Fae Colwyn, i gyd yn drigolion trefi a phentrefi  Cymreig enwog, at ei gilydd i rannu eu cariad at ganu, teimlad nas ceir yn unman ond yng Nghymru!!,   Fe ymuna cantorion, ieuainc a hŷn, enillwyr eisteddfod, unawdwyr cyngerdd, cerddorion disgybledig, gyda lleisiau profiadol rhai o gorau meibion amlycaf Cymru, i gyd wedi  derbyn gwahoddiad i’r côr dros y blynyddoedd.

Mewn cyfnod cymharol fyr mae’r Cantorion wedi gwneud cryn enw iddynt eu hunain, gartref ac oddi cartref, Teithiasant yn helaeth gan berfformio yn Singapore, Awstralia, yr Unol Daleithiau, Canada, y Ffindir, Malta, ac yn ddiweddar, yn Ffrainc a’r Eidal. Yn gyson fe gaiff y côr ei  wahodd yn ôl i ail berffomio ac felly, yn anochel, mae ei raglen gyngherddau’n llawn, gan  ei fod yn ymweld â rhai safleoedd  am y tro cyntaf a   chyfarfod cyfeillion a chynulleidfaoedd  newydd yn y Deyrnas Unedig a thramor.  O  wneud hynny fe wneir  ffrindiau newydd  a chadw cysylltiad â chorau eraill trwy rannu llwyfan  a nosweithiau o ddathlu difyr.  Mae’r côr cystal oddi ar y llwyfan ag  ydyw  mewn perfformiad!

( Gwelwch y dudalen yn saesneg am y dyddiadau a manylion yr  ymarferiadau )