Home

Mecaneg Côr

Yn y 12fed ganrif fe  sylwodd Gerallt Gymro, Esgob Tŷ Ddewi (Penfro) nad oedd Y Brythoniaid (Cymry) yn canu eu caneuon yn unsain fel y gwnai trigolion gwledydd eraill ond mewn gwahanol rannau. Felly pan ddêl cantorion at ei gilydd i ganu  fe glywir cynifer o wahanol rannau ag sydd o gantorion, i gyd yn uno mewn cynghanedd a pheroriaeth naturiol.

 

Yn  ddiweddarch cryfhawyd y traddodiad o ganu pedwar llais gan ddatbygiadau fel ‘plethyn’ lle ‘roedd teuluoedd unigol yn datgan eu fersiwn eu hunain o emyn neu gân werin yn ystod gwasanaethau crefyddol. Fe’i hyrwyddwyd hefyd gan dwf yr eisteddfodau, gan  gystadlaethau ac ymrysonfeydd lleol a chan boblogrwydd cynyddol y Gymanfa Ganu.  Gŵyl o gânu emynau oedd y Gymanfa Ganu lle deuai’r pentrefwyr at ei gilydd i ganu. Mae’r Eisteddfod a’r Gymanfa Ganu yn dal yn eu bri hyd y dydd heddiw.

Rhwng 1849 a 1914 hybwyd y dadeni cerddorol yng Nghymru gan dwf yr eisteddfodau lleol  a rhanbarthol, tyfiant cymdeithas anghydffurfiol y capeli a’r mudiad dirwestol. Dyma’r cyfnod  lle gwelwyd y corau meibion yn dod i’r amlwg, yn enwedig ar ôl 1877 gyda  sefydlu Cymdeithas Gorawl y Rhondda, a bu’r dull tonig sol-ffa o ddysgu caneuon, gan Eliza Roberts, o gymorth mawr.

Deil y Cantorion wrth y traddodiad yma. Mae pedair adran i’r côr. Mae dwy garfan o denoriaid a elwir yn Denoriaid Cyntaf ac Ail Denoriaid a dwy garfan o faswyr a elwir un ai’n Fas Cyntaf ac Ail neu’n FARITON a BAS ISAF.

Fe osodir corau mewn gwahanol ffyrdd ond pan fydd John yn arwain mae’n hoffi cael yr Ail Denoriaid ar ei  law chwith gyda’r Tenoriaid Uchaf  yn sefyll o’u mewn, yna’r Bas Cyntaf ac, yn olaf, yr Ail Fas ar y llaw dde pellaf.

Y Tenoriaid Cyntaf sy’n canu’r nodau uchaf a gellwch eu clywed yn arwain y melodi a chanu desgant. Bydd corau’n brolio ansawdd eu Tenoriaid Cyntaf neu’r lein uchaf yn aml ond fe all yr adran yma  o’r Cantorion ymfalchio’n haeddiannol yn ei henw da. I’r darllenwyr hynny sydd o feddylfryd cerddorol mae ystod  llais nodweddiadol y tenor yn ymestyn o’r C wythfed yn is na’r C ganol i’r A uwchben C ganol. Y gamp mewn canu corawl yw lleihau y tueddiad i leisiau unigol ymwthio’n agored a chras wrth ymdrechu i gyrraedd y nodau uchaf.

Mae yna lai o ddeall  ar swyddogaeth yr Ail Denoriaid ond serch hynny maent yn elfen bwysig yn y côr.  Gellir clywed  lein yr Ail Denoriaid yn rhoi’r sain i mewn rhwng y Tenoriaid Cyntaf a’r baritoniaid gan gefnogi’r ddwy adran. Fel arfer mae’r Ail Denoriaid yn canu’r  rhannau anodd hynny  y tuedda’r adrannau eraill i’w hosgoi!

Baritoniaid (Bas Cyntaf).  Byddai’r mwyafrif o newydd ddyfodiaid yn ymuno â’r adran yma gan y tybir mai dyma‘r llais naturiol i ddynion ac fe ymddengys nad oes fawr neb yn awyddus i ymadael chwaith wedi iddynt ddechrau canu! Yn adran bwysig, fe gyfranna’n hael i’r swmp crwn o sŵn  a’r gynghanedd  gyfoethog a gynhyrchir gan y côr drwyddo draw. Fe syrth ystod lleisiol y Bariton rywle rhwng y Bas a’r Tenor gyda’r ystod nodweddiadol yn disgyn  tuag A i 1/10*  o dan C ganol i’r F uwchben C ganol.

Mae adran y Bas Isaf yn rhoi’r llwyfan hanfodol ac arno fe all y lleisiau eraill wau eu melodiau priodol. Mae adran y bas yn y côr yn enwog oherwydd  cryfder ac ansawdd ei sain.

Fodd bynnag mae pob perfformiad yn  waith tîm a cheir partneriaeth driphlyg rhwng y pedair adran lleisiol, y cyfeilydd a’r arweinydd er mwynhad i bawb, a’r gynulleidfa.

Hyfrydwch mawr y gân Gymreig yw nad oes arni angen achos na rheswm arbennig ac fe rydd gyfeiliant swynol i bob agwedd o’r bywyd Cymreig, y llon a’r lleddf.