Home

Cyfarwyddwr Cerdd

063
Aled Edwards, ALCM,LLGM, Perf. Dip.
Yn enedigol o Gaernarfon, fe addysgwyd Aled yn Ysgol Glan Clwyd Llanelwy, ac ar ôl derbyn gradd Perfformio ALCM, LLCM, Perf. Dip., fe astudiodd Cerdd am gyfnod ym Mhrifysgol Bangor.
Daw o gefndir cerddorol gyda ei dad yn gyn-enillydd y Rhuban Glas.
Bu Aled yn gystadleuwr llwyddiannus am flynyddoedd mewn sawl Eisteddfod leol ac Eisteddfodau’r Urdd.  Bellach mae’n cael ei alw ar i gyfeilio ac i feirniadu yn lleol ac yn Sirol.
Dechreuodd Aled yn ifanc fel cyfeilydd i Gôr Meibion y Fflint gan ddod yn ddirprwy arweinydd. Yn ogystal mae o wedi cyfeilio i nifer o gorau eraill.
Rhai o brif diddordebau Aled erbyn heddiw ydi cyfansoddi ynghyd a hyfforddi ei blant – James a Manon i ganu. Mae’r ddau wedi cael cryn lwyddiant mewn Eisteddfodau lleol a Chenedlaethol  ac mae James yn awr yn myfyriwr cerdd yn Llundain.
Cyhoeddwyd un o gyfansoddiadau Aled sef  “Fy Mhlentyn” ar ôl llwyddiant y darn yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2007.
Erbyn hyn mae Aled wrth y llyw gyda Cantorion fel arweinydd ac yn edrych ymlaen at ddyfodol llwyddiannus gyda’r côr.