Ynghyd â llawer o gorau meibion Cymru mae’r Cantorion yn meddu ar ymdeimlad o gymdeithas a brawdoliaeth. Gellid ystyried hyn braidd yn anghyffredin gan fod yr aelodau’n dod o bob rhan o Ogledd Cymru a’r corau niferus sydd yno. Yn wahanol i gorau eraill ni chaiff y Cantorion yr un cyfle i gyfarfod ac ymarfer a gallasent fod yn brin o’r ymlyniad sy’n datblygu’n naturiol rhwng cyfoedion sy’n byw ac yn gweithio yn yr un ardal.
Fodd bynnag maent yn cynrychioli’r gwahanol gymunedau gwledig a threfol sydd i’w cael yn y rhanbarth, o’r trefi glan môr, yr ardaloedd amaethyddol, y trefi marchnad prysur a’r canolfannau diwydiannol.
Mae’r gymysgedd yma, mewn gwirionedd, yn cyfoethogi’r côr, yn dyfnhau’r llawenydd a’r balchder o rannu’r iaith Gymraeg ac yn asio’r cyfeillgarwch a’r ymwneud cymdeithasol. Mae’r iaith Gymraeg, fel yr Eidaleg, yn eistedd yn esmwyth hefo rhai o’n tonau hyfrytaf ac fe ddwg gyda hi ddiwylliant hawdd i’w fynegi ym mherfformiad, yn ymagweddiad a lles y côr.
Gellir ystyried Cantorion yn ‘gôr teuluol’ gan fod ynddo nifer o berthnasau agos fel tadau a meibion, brodyr, efeilliaid, ewyrthod a pherthnasau yng nghyfraith. Yn anochel mae hyn yn gymorth i greu’r agosrwydd hanfodol, y cyfeillgarwch a’r ymdeimlad greddfol o ddealltwriaeth sy’n clustnodi pob côr da. Mae hefyd y creu’r awyrgylch hanfodol a’r trefn gwaith lle cymerir teimladau’r cantorion i gyd i ystyriaeth fel y gallont deimlo eu bod o’r un gwerth a phwysigrwydd, cyflwr y mae John Daniel yn ei feithrin a’i warchod yn ofalus.
O ganlyniad mae’r unawdwyr, sy’n elfen bwysig yn y Cantorion, yn cymryd eu lle yn braf yn y perfformiadau. Bendithiwyd John â digonedd o ddoniau ac y mae yntau’n awyddus iawn i feithrin lleisiau newydd a chyffrous yn ogystal â hyrwyddo’r unawdwyr, y diddanwyr, y deuawdau, triawdau a’r cyfuniadau lleisiol profiadol eraill sy’n cyfrannu’r gyson i bob cyngerdd gan y Cantorion.