Home

Hanes

colinoldchoir

COLIN JONES

Sefydlwyd Cantorion gan y diweddar Colin Jones yn 1992 pan estynnodd  wahoddiad i gantorion a hyfforddwyd ac a arweiniwyd ganddo mewn corau led-led Gogledd Cymru i ymuno â’i gôr newydd. Gallai uno ei fedr fel cynhyrchydd llais  a threfnydd côrau â brwdfrydedd ac ymroddiad rhai o gantorion ac unawdwyr gorau Gogledd Cymru ac yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf fe sefydlodd gôr meibion o sŵn unigryw a ddaeth yn adnabyddus yn dilyn eu teithiau a’u perfformiadau mewn nifer o wledydd y byd.