Lansiodd y Cantorion a John Daniel eu Gweithdy Corawl cyntaf erioed yng Nghanolfan Hamdden Llanrwst ddydd Sul 17 Ebrill. Gwahoddiad agored ydoedd i roi i ddynion y profiad o ganu yn rhengoedd y Cantorion,- ac fe brofodd yn llwyddiant ysgubol. Manteisiodd nifer ar y cyfle ac yng nghwmni John Daniel fe brofasant holl hanfodion sylfaenol cynhyrchu llais ac o ganu mewn côr. Gymaint y galw fel y bydd John a’r pwyllgor yn trefnu ail weithdy yn fuan.
httpv://www.youtube.com/watch?v=Amqg3qyLQdU
Sefydlwyd y Gweithdy gyda’r bwriad o wahodd dynion ieuanc Gogledd Cymru a thu allan, rhai a chanddynt ddiddordeb mewn gwybod sut deimlad yw canu mewn côr meibion o’r radd flaenaf. Amlygwyd llawer o ddiddordeb gan gyn gantorion corau yn ogystal â rhai nad oeddynt wedi canu nodyn ers gadael yr ysgol!!
httpv://www.youtube.com/watch?v=UtVtJtBC7cA
Fe ddysgai John ar sail ei wybodaeth drylwyr o ddadansoddiad y llais, sydd yn hanfodol i osod sylfaen dechnegol ddiogel. Fe wfftiodd at lawer o’r chwedloniaeth sydd wedi hel o gwmpas y gwaith lleisiol ac fe eglurodd beth o’r cefndir a’r rheswm dros lawer o’r camddiffinio a geir wrth ddysgu’r grefft o ganu.
Ni chafodd amryw o gantorion corawl fawr o hyfforddiant na gwersi preifat a gallai dysgu trwy drosiad yn unig beri dryswch iddynt. Er i hynny fod yn ddefnyddiol, yn aml nid yw’r canwr yn gwybod paham y gwnaeth y newidiadau ac ni all chwaith eu hail gynhyrchu yn ôl y galw. Wrth fynd i’r Gweithdy fe gafodd y cantorion brofiad sylweddol, yn gorfforol a lleisiol, profiad a atgyfnerthwyd â deall technegol, cadarn.
httpv://www.youtube.com/watch?v=B_gqUtta-4Y
Bydd manylion Gweithdai’r dyfodol yn ymddangos ar y wefan hon . . .