{"id":258,"date":"2011-02-03T18:16:51","date_gmt":"2011-02-03T18:16:51","guid":{"rendered":"http:\/\/www.cantorioncolinjones.co.uk"},"modified":"2016-06-13T15:20:03","modified_gmt":"2016-06-13T15:20:03","slug":"258-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/258-2","title":{"rendered":"Mecaneg C\u00f4r"},"content":{"rendered":"<p style=\"text-align: left;\">Yn y 12fed ganrif fe\u00a0 sylwodd Gerallt Gymro, Esgob T\u0177 Ddewi (Penfro) nad oedd Y Brythoniaid (Cymry) yn canu eu caneuon yn unsain fel y gwnai trigolion gwledydd eraill ond mewn gwahanol rannau. Felly pan dd\u00eal cantorion at ei gilydd i ganu\u00a0 fe glywir cynifer o wahanol rannau ag sydd o gantorion, i gyd yn uno mewn cynghanedd a pheroriaeth naturiol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn\u00a0 ddiweddarch cryfhawyd y traddodiad o ganu pedwar llais gan ddatbygiadau fel \u2018plethyn\u2019 lle \u2018roedd teuluoedd unigol yn datgan eu fersiwn eu hunain o emyn neu g\u00e2n werin yn ystod gwasanaethau crefyddol. Fe\u2019i hyrwyddwyd hefyd gan dwf yr eisteddfodau, gan\u00a0 gystadlaethau ac ymrysonfeydd lleol a chan boblogrwydd cynyddol y Gymanfa Ganu.\u00a0 G\u0175yl o g\u00e2nu emynau oedd y Gymanfa Ganu lle deuai\u2019r pentrefwyr at ei gilydd i ganu. Mae\u2019r Eisteddfod a\u2019r Gymanfa Ganu yn dal yn eu bri hyd y dydd heddiw.<\/p>\n<p>Rhwng 1849 a 1914 hybwyd y dadeni cerddorol yng Nghymru gan dwf yr eisteddfodau lleol\u00a0 a rhanbarthol, tyfiant cymdeithas anghydffurfiol y capeli a\u2019r mudiad dirwestol. Dyma\u2019r cyfnod\u00a0 lle gwelwyd y corau meibion yn dod i\u2019r amlwg, yn enwedig ar \u00f4l 1877 gyda\u00a0 sefydlu Cymdeithas Gorawl y Rhondda, a bu\u2019r dull tonig sol-ffa o ddysgu caneuon, gan Eliza Roberts, o gymorth mawr.<\/p>\n<p>Deil y Cantorion wrth y traddodiad yma. Mae pedair adran i\u2019r c\u00f4r. Mae dwy garfan o denoriaid a elwir yn Denoriaid Cyntaf ac Ail Denoriaid a dwy garfan o faswyr a elwir un ai\u2019n Fas Cyntaf ac Ail neu\u2019n FARITON a BAS ISAF.<\/p>\n<p>Fe osodir corau mewn gwahanol ffyrdd ond pan fydd John yn arwain mae\u2019n hoffi cael yr Ail Denoriaid ar ei\u00a0 law chwith gyda\u2019r Tenoriaid Uchaf \u00a0yn sefyll o\u2019u mewn, yna\u2019r Bas Cyntaf ac, yn olaf, yr Ail Fas ar y llaw dde pellaf.<\/p>\n<p>Y Tenoriaid Cyntaf sy\u2019n canu\u2019r nodau uchaf a gellwch eu clywed yn arwain y melodi a chanu desgant. Bydd corau\u2019n brolio ansawdd eu Tenoriaid Cyntaf neu\u2019r lein uchaf yn aml ond fe all yr adran yma\u00a0 o\u2019r Cantorion ymfalchio\u2019n haeddiannol yn ei henw da. I\u2019r darllenwyr hynny sydd o feddylfryd cerddorol mae ystod\u00a0 llais nodweddiadol y tenor yn ymestyn o\u2019r C wythfed yn is na\u2019r C ganol i\u2019r A uwchben C ganol. Y gamp mewn canu corawl yw lleihau y tueddiad i leisiau unigol ymwthio\u2019n agored a chras wrth ymdrechu i gyrraedd y nodau uchaf.<\/p>\n<p>Mae yna lai o ddeall\u00a0 ar swyddogaeth yr Ail Denoriaid ond serch hynny maent yn elfen bwysig yn y c\u00f4r.\u00a0 Gellir clywed\u00a0 lein yr Ail Denoriaid yn rhoi\u2019r sain i mewn rhwng y Tenoriaid Cyntaf a\u2019r baritoniaid gan gefnogi\u2019r ddwy adran. Fel arfer mae\u2019r Ail Denoriaid yn canu\u2019r\u00a0 rhannau anodd hynny\u00a0 y tuedda\u2019r adrannau eraill i\u2019w hosgoi!<\/p>\n<p>Baritoniaid (Bas Cyntaf).\u00a0 Byddai\u2019r mwyafrif o newydd ddyfodiaid yn ymuno \u00e2\u2019r adran yma gan y tybir mai dyma\u2018r llais naturiol i ddynion ac fe ymddengys nad oes fawr neb yn awyddus i ymadael chwaith wedi iddynt ddechrau canu! Yn adran bwysig, fe gyfranna\u2019n hael i\u2019r swmp crwn o s\u0175n\u00a0 a\u2019r gynghanedd\u00a0 gyfoethog a gynhyrchir gan y c\u00f4r drwyddo draw. Fe syrth ystod lleisiol y Bariton rywle rhwng y Bas a\u2019r Tenor gyda\u2019r ystod nodweddiadol yn disgyn\u00a0 tuag A i <strong>1\/10*<\/strong><strong>\u00a0 <\/strong>o dan C ganol i\u2019r F uwchben C ganol.<\/p>\n<p>Mae adran y Bas Isaf yn rhoi\u2019r llwyfan hanfodol ac arno fe all y lleisiau eraill wau eu melodiau priodol. Mae adran y bas yn y c\u00f4r yn enwog oherwydd\u00a0 cryfder ac ansawdd ei sain.<\/p>\n<p>Fodd bynnag mae pob perfformiad yn\u00a0 waith t\u00eem a cheir partneriaeth driphlyg rhwng y pedair adran lleisiol, y cyfeilydd a\u2019r arweinydd er mwynhad i bawb, a\u2019r gynulleidfa.<\/p>\n<p>Hyfrydwch mawr y g\u00e2n Gymreig yw nad oes arni angen achos na rheswm arbennig ac fe rydd gyfeiliant swynol i bob agwedd o\u2019r bywyd Cymreig, y llon a\u2019r lleddf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y 12fed ganrif fe\u00a0 sylwodd Gerallt Gymro, Esgob T\u0177 Ddewi (Penfro) nad oedd Y Brythoniaid (Cymry) yn canu eu caneuon yn unsain fel y gwnai trigolion gwledydd eraill ond mewn gwahanol rannau. Felly pan dd\u00eal cantorion at ei gilydd i ganu\u00a0 fe glywir cynifer o wahanol rannau ag sydd[&#8230;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":21,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-258","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/258","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=258"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/258\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=258"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}