{"id":253,"date":"2011-02-03T18:09:53","date_gmt":"2011-02-03T18:09:53","guid":{"rendered":"http:\/\/www.cantorioncolinjones.co.uk"},"modified":"2016-06-13T15:16:22","modified_gmt":"2016-06-13T15:16:22","slug":"repertoire-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/repertoire-2","title":{"rendered":"Repertoire"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/cantoriongogleddcymru-co-uk.stackstaging.com\/wp-content\/uploads\/2011\/02\/johnarwyn1.jpg\" data-lightbox=\"gal[253]\" rel=\"attachment wp-att-1327\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1327 alignright\" src=\"https:\/\/cantoriongogleddcymru-co-uk.stackstaging.com\/wp-content\/uploads\/2011\/02\/johnarwyn1.jpg\" alt=\"johnarwyn\" width=\"194\" height=\"146\" srcset=\"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/wp-content\/uploads\/2011\/02\/johnarwyn1.jpg 600w, https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/wp-content\/uploads\/2011\/02\/johnarwyn1-150x112.jpg 150w, https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/wp-content\/uploads\/2011\/02\/johnarwyn1-250x187.jpg 250w\" sizes=\"auto, (max-width: 194px) 100vw, 194px\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r Cyfarwyddwr Cerdd\u00a0yn trin ei g\u00f4r fel pe bai\u2019n canu offeryn cerdd.\u00a0 Mae\u2019r hyblygrwydd a gaiff yn ei alluogi i ddewis cerddoriaeth o bob adran o <em>repertoire<\/em> y corau meibion.\u00a0 Gyda\u2019i\u00a0 hyder yng ngallu\u2019r Cantorion gall fynd i\u2019r afael \u00e2 gwaith a ystyrid\u00a0 unwaith yn faes cyfyngedig i adnoddau mwy niferus.\u00a0 Mae hynny\u2019n cynnwys <a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/watch?v=UtVtJtBC7cA\"><span style=\"color: #000000;\"><strong>The Prayer<\/strong> <\/span><\/a>(Lohengrin)- Wagner.\u00a0 <span style=\"color: #ffffff;\"><strong>Y Greadigaeth<\/strong> <\/span>\u2013 Richter,<strong> <a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/watch?v=vZYk4MuDGDc&amp;feature=related\"><span style=\"color: #ffffff;\">Gweddi&#8217;r Arglwydd<\/span><\/a> &#8211; <\/strong>Mallotte<strong>, Jerusalem<\/strong> (I Lombardi-Verdi a <a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/watch?v=k8AE-vqWbm4&amp;feature=related\"><span style=\"color: #ff0000;\"><strong>Nessun Dorma<\/strong> <\/span><\/a>&#8211; Turandot. Ar y llaw arall mae\u2019n\u00a0 rhagori gyda chaneuon tawel ac atgofus\u00a0 fel <strong>Suo G\u00e2n<\/strong> a <strong><a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/watch?v=8hWUN5LLzeo&amp;feature=related\"><span style=\"color: #ff0000;\">Bring Him Home<\/span><\/a><\/strong><span style=\"color: #ff0000;\">,<\/span> darnau sy\u2019n gofyn am ysgafnder, am\u00a0 addfwynder s\u0175n ac yn fwy na dim\u00a0 am berthynas glos \u00e2 rhannau unawdol y gwaith.<\/p>\n<p>Yn anochel, mae\u2019r Cantorion yn mwynhau canu eu detholiadau Cymreig, traddodiadol, yn enwedig yn \u2018iaith y nefoedd\u2019. Mae ansawdd y tenoriaid uchaf a\u2019r bas isaf, yn enwedig, yn sicrhau fod yr emynau Cymreig (e.e. Gwahoddiad &#8211; tref. J.T.Davies a Buddugoliaeth y Groes &#8211; trefn. J.Raymond Wiliams yn cael eu cyflwyno bob amser gyda\u2019r nwyd hanfodol, y deinameg a\u2019r\u00a0 diweddglo codi- gwallt-pen sydd i\u2019w ddisgwyl gan gorau meibion o Gymru. Y ffefrynnau eraill i\u00a0 godi hiraeth, yn arbennig yng nghalonau\u2019r Cymry ym mhobman yw\u00a0<strong> <a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/watch?v=ZebmWBSzMjE&amp;feature=related\"><span style=\"color: #ff0000;\">Y Ddau Wladgarwr<\/span><\/a><\/strong> \u2013 trefn. C. Jones, (arwyddgan y C\u00f4r)<strong> <a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/watch?v=YgkN6ajMs14\"><span style=\"color: #ff0000;\">O Gymru<\/span><\/a><\/strong> \u2013 trefn. Haydn James\/Jennie Trew, Myfanwy \u2013 trefn. C.Jones a threfniant arbennig John\u00a0 Daniel o Sospan Fach<strong>.<\/strong><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\">Mae&#8217;r Cyfarwyddwr Cerdd\u00a0bob amser yn chwilio am ffyrdd o newid tempo a grym symudol y c\u00f4r trwy gynnwys darnau i gadw blaenau\u2019r traed ar fynd (Every time I Feel the Spirit, The Silver Trumpet).\u00a0 Mae wedi trefnu nifer o ganeuon i\u2019r c\u00f4r ac y mae\u2019r cantorion yn awyddus iawn i ganu\u2019r darnau hynny, rhai fel Pan Fyddo\u2019r Nos yn Hir, The Impossible Dream ac, wrth gwrs, Sospan Fach.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\">Gall y Cyfarwyddwr Cerdd wneud deunydd effeithol o\u2019r\u00a0 unawdwyr niferus sydd yn y c\u00f4r,\u00a0 un ai rhwng\u00a0 neu o fewn y darnau corawl. Mae\u2019r unawdwyr yn dewis eu datganiadau eu hunain, fel arfer er budd cyfanrwydd y perfformiadau. Mae unawdau tenor a ffefrynnau cyngerdd yn ymgiprys \u00e2\u2019r bas a\u2019r bariton yn ogystal \u00e2\u2019r triawd sefydliedig a\u2019r deuawdau.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\">Dilyna\u2019r Cyfarwyddwr Cerdd\u00a0 ganllawiau syml wrth ddewis rhaglenni c\u00f4r a chyngerdd. Mae\u2019n benderfynol\u00a0 o ddewis darnau sy\u2019n rhoi mwynhad i\u2019r\u00a0 \u2018hogia\u2019\u00a0 ac sydd wrth fodd y gynulleidfa, O wneud hynny fe ddymuna gadw\u2019r hyn sydd dda yn nhraddodiad corau meibion Cymru tra\u2019n hyrwyddo gweithiau newydd\u00a0\u00a0\u00a0cyffrous pa un ai\u2019n gysegredig, operatig, gwerinol neu boblogaidd. Ar derfyn pob perfformiad fe obeithia\u2019r Cantorion adael\u00a0 eu cynulleidfa\u00a0 yn dyheu am fwy ac yng ngeiriau Longfellow :-<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\">A\u2019r nos fydd yn llawn o fiwsig<br \/>\nA\u2019r pryderon yn eu trefn<br \/>\nYn plygu eu pebyll fel yr Arab gynt<br \/>\nAc yn dawel droi eu cefn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r Cyfarwyddwr Cerdd\u00a0yn trin ei g\u00f4r fel pe bai\u2019n canu offeryn cerdd.\u00a0 Mae\u2019r hyblygrwydd a gaiff yn ei alluogi i ddewis cerddoriaeth o bob adran o repertoire y corau meibion.\u00a0 Gyda\u2019i\u00a0 hyder yng ngallu\u2019r Cantorion gall fynd i\u2019r afael \u00e2 gwaith a ystyrid\u00a0 unwaith yn faes cyfyngedig i adnoddau mwy[&#8230;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":13,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-253","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/253","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=253"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/253\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=253"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}