{"id":1256,"date":"2011-04-25T17:03:20","date_gmt":"2011-04-25T17:03:20","guid":{"rendered":"http:\/\/www.cantorioncolinjones.co.uk"},"modified":"2011-04-25T17:05:45","modified_gmt":"2011-04-25T17:05:45","slug":"gweithdai","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/gweithdai","title":{"rendered":"Gweithdai"},"content":{"rendered":"<p style=\"text-align: justify;\">Lansiodd y Cantorion a John Daniel eu Gweithdy Corawl cyntaf erioed yng Nghanolfan Hamdden Llanrwst ddydd Sul 17 Ebrill. Gwahoddiad agored ydoedd i roi i ddynion y profiad o ganu yn rhengoedd y Cantorion,- ac fe brofodd yn llwyddiant ysgubol.\u00a0 Manteisiodd nifer ar y cyfle ac yng nghwmni John Daniel fe brofasant holl hanfodion sylfaenol cynhyrchu llais ac o ganu mewn c\u00f4r. Gymaint y galw fel y bydd John a\u2019r pwyllgor yn trefnu ail weithdy yn fuan.<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/watch?v=Amqg3qyLQdU\">httpv:\/\/www.youtube.com\/watch?v=Amqg3qyLQdU<\/a><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\">Sefydlwyd y Gweithdy\u00a0 gyda\u2019r bwriad o wahodd dynion ieuanc Gogledd Cymru a thu allan, rhai a chanddynt ddiddordeb mewn\u00a0 gwybod\u00a0 sut deimlad yw canu mewn c\u00f4r meibion o\u2019r radd flaenaf. Amlygwyd llawer o ddiddordeb\u00a0 gan gyn gantorion corau yn ogystal \u00e2 rhai nad oeddynt wedi canu nodyn ers gadael yr ysgol!!<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/watch?v=UtVtJtBC7cA\">httpv:\/\/www.youtube.com\/watch?v=UtVtJtBC7cA<\/a><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\">Fe ddysgai John\u00a0 ar sail ei wybodaeth drylwyr o ddadansoddiad y\u00a0 llais, sydd yn hanfodol i osod sylfaen dechnegol ddiogel. Fe wfftiodd at lawer o\u2019r chwedloniaeth sydd wedi hel o gwmpas y gwaith lleisiol ac fe eglurodd\u00a0 beth o\u2019r cefndir a\u2019r\u00a0 rheswm dros lawer o\u2019r camddiffinio a geir wrth ddysgu\u2019r grefft o ganu.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\">Ni chafodd amryw o gantorion corawl\u00a0 fawr o hyfforddiant na gwersi preifat a gallai dysgu trwy drosiad yn unig beri dryswch iddynt. Er i hynny fod yn ddefnyddiol, yn aml nid yw\u2019r canwr yn gwybod paham y gwnaeth y newidiadau ac ni all\u00a0 chwaith eu hail gynhyrchu yn \u00f4l y galw. Wrth fynd i\u2019r Gweithdy fe gafodd y cantorion brofiad sylweddol, yn gorfforol a lleisiol, profiad a\u00a0 atgyfnerthwyd \u00e2 deall technegol, cadarn.<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><a href=\"http:\/\/www.youtube.com\/watch?v=B_gqUtta-4Y\" target=\"_new\">httpv:\/\/www.youtube.com\/watch?v=B_gqUtta-4Y<\/a><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Bydd manylion Gweithdai&#8217;r dyfodol yn ymddangos ar y wefan hon . . .<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Lansiodd y Cantorion a John Daniel eu Gweithdy Corawl cyntaf erioed yng Nghanolfan Hamdden Llanrwst ddydd Sul 17 Ebrill. Gwahoddiad agored ydoedd i roi i ddynion y profiad o ganu yn rhengoedd y Cantorion,- ac fe brofodd yn llwyddiant ysgubol.\u00a0 Manteisiodd nifer ar y cyfle ac yng nghwmni John Daniel[&#8230;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1256","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1256","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1256"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1256\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cantoriongogleddcymru.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1256"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}