Home

Repertoire

johnarwyn

Mae’r Cyfarwyddwr Cerdd yn trin ei gôr fel pe bai’n canu offeryn cerdd.  Mae’r hyblygrwydd a gaiff yn ei alluogi i ddewis cerddoriaeth o bob adran o repertoire y corau meibion.  Gyda’i  hyder yng ngallu’r Cantorion gall fynd i’r afael â gwaith a ystyrid  unwaith yn faes cyfyngedig i adnoddau mwy niferus.  Mae hynny’n cynnwys The Prayer (Lohengrin)- Wagner.  Y Greadigaeth – Richter, Gweddi’r ArglwyddMallotte, Jerusalem (I Lombardi-Verdi a Nessun Dorma – Turandot. Ar y llaw arall mae’n  rhagori gyda chaneuon tawel ac atgofus  fel Suo Gân a Bring Him Home, darnau sy’n gofyn am ysgafnder, am  addfwynder sŵn ac yn fwy na dim  am berthynas glos â rhannau unawdol y gwaith.

Yn anochel, mae’r Cantorion yn mwynhau canu eu detholiadau Cymreig, traddodiadol, yn enwedig yn ‘iaith y nefoedd’. Mae ansawdd y tenoriaid uchaf a’r bas isaf, yn enwedig, yn sicrhau fod yr emynau Cymreig (e.e. Gwahoddiad – tref. J.T.Davies a Buddugoliaeth y Groes – trefn. J.Raymond Wiliams yn cael eu cyflwyno bob amser gyda’r nwyd hanfodol, y deinameg a’r  diweddglo codi- gwallt-pen sydd i’w ddisgwyl gan gorau meibion o Gymru. Y ffefrynnau eraill i  godi hiraeth, yn arbennig yng nghalonau’r Cymry ym mhobman yw  Y Ddau Wladgarwr – trefn. C. Jones, (arwyddgan y Côr) O Gymru – trefn. Haydn James/Jennie Trew, Myfanwy – trefn. C.Jones a threfniant arbennig John  Daniel o Sospan Fach.

Mae’r Cyfarwyddwr Cerdd bob amser yn chwilio am ffyrdd o newid tempo a grym symudol y côr trwy gynnwys darnau i gadw blaenau’r traed ar fynd (Every time I Feel the Spirit, The Silver Trumpet).  Mae wedi trefnu nifer o ganeuon i’r côr ac y mae’r cantorion yn awyddus iawn i ganu’r darnau hynny, rhai fel Pan Fyddo’r Nos yn Hir, The Impossible Dream ac, wrth gwrs, Sospan Fach.

Gall y Cyfarwyddwr Cerdd wneud deunydd effeithol o’r  unawdwyr niferus sydd yn y côr,  un ai rhwng  neu o fewn y darnau corawl. Mae’r unawdwyr yn dewis eu datganiadau eu hunain, fel arfer er budd cyfanrwydd y perfformiadau. Mae unawdau tenor a ffefrynnau cyngerdd yn ymgiprys â’r bas a’r bariton yn ogystal â’r triawd sefydliedig a’r deuawdau.

Dilyna’r Cyfarwyddwr Cerdd  ganllawiau syml wrth ddewis rhaglenni côr a chyngerdd. Mae’n benderfynol  o ddewis darnau sy’n rhoi mwynhad i’r  ‘hogia’  ac sydd wrth fodd y gynulleidfa, O wneud hynny fe ddymuna gadw’r hyn sydd dda yn nhraddodiad corau meibion Cymru tra’n hyrwyddo gweithiau newydd   cyffrous pa un ai’n gysegredig, operatig, gwerinol neu boblogaidd. Ar derfyn pob perfformiad fe obeithia’r Cantorion adael  eu cynulleidfa  yn dyheu am fwy ac yng ngeiriau Longfellow :-

A’r nos fydd yn llawn o fiwsig
A’r pryderon yn eu trefn
Yn plygu eu pebyll fel yr Arab gynt
Ac yn dawel droi eu cefn.